Lleoliad:
Committee Room 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Gwener, 6 Tachwedd 2020
Amser:
Times
Not Specified
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6615
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Ann Jones AS (Cadeirydd) Suzy Davies AS Llyr Gruffydd AS Dai Lloyd AS Rhianon Passmore AS |
Tystion: |
Dame Elan Closs Stephens CBE, Comisiwn Etholiadol Bob Posner, Comisiwn Etholiadol Kieran Rix, Comisiwn Etholiadol Rhydian Thomas, Comisiwn Etholiadol |
Staff y Pwyllgor: |
Huw Gapper (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol) Christian Tipples (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod cyntaf Pwyllgor y Llywydd.
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.
1.3 Nid yw’r Rheolau Sefydlog yn galluogi Pwyllgor y Llywydd i ethol Cadeirydd dros dro, felly cytunodd y Pwyllgor, pe bai'r Cadeirydd yn profi anawsterau technegol yn ystod y cyfarfod, y byddai Llyr Gruffydd yn arwain y trafodaethau yn ei habsenoldeb.
2 Craffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2021/22 a’i gynllun pum mlynedd
2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Comisiwn Etholiadol i'r cyfarfod a diolchodd iddo am gyflwyno ei amcangyfrif ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021-22 a'i gynllun pum mlynedd, ar 1 Hydref.
2.2 Bu’r Pwyllgor yn holi’r Comisiwn Etholiadol yn fanwl ar ei amcangyfrif ariannol ar gyfer 2021-22 a'i gynllun Corfforaethol pum mlynedd.
2.3 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad gan y Rheolwr a’r Archwilydd Cyffredinol yn unol â pharagraff 16C(2)(b) o Atodlen 1 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
2.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog ar yr amcangyfrif a'r cynllun fel rhan o'r ymgynghoriad sy'n ofynnol o dan baragraff 16A(8) (b) o Atodlen 1 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
Camau i’w cymryd:
- Cytunodd y Comisiwn Etholiadol i ddarparu rhagor o dystiolaeth ar eu rhesymeg dros gynnwys dibrisiant yn yr amcangyfrif.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
4 Craffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2021/22 a’r cynllun pum mlynedd: Trafod y dystiolaeth
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
5 Papur i’w nodi
5.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.